Cyfieithu ein gwefan i iaith arall

Mae ein gwefan ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ond gallwch ddefnyddio Google Translate i newid iaith ein gwefan.

Dylech osod iaith wreiddiol i ‘ganfod iaith’, yna dewis yr iaith yr hoffech i’r wefan gael ei chyfieithu iddi.

I gyfieithu Caerdydd Sy’n Dda i Bobl Hŷn, rhowch gyfeiriad ein gwefan yn y blwch. Cliciwch ar y botwm saeth, neu ‘Go’ ar ddyfais symudol.

Bydd Google yn agor y wefan mewn tab gwahanol, lle bydd y cynnwys yn cael ei gyfieithu i’ch dewis iaith.

 

Newid rhwng y iaith wreiddiol a’r cyfieithiad

Gallwch newid iaith y wefan o’i chyfieithiad yn ôl i’r iaith wreiddiol. Cliciwch ar y gwymplen ‘Translation’, a dewiswch ‘Original’ i fynd yn ôl i’r iaith wreiddiol.

Help gyda chyfieithu gwefannau a dogfennau

Gallwch ddod o hyd i fwy o ganllawiau ar gyfieithu gwefannau a dogfennau ar fwrdd gwaith neu ddyfais symudol, drwy ymweld â Google translate help.