Eich Dinas

Mae Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn ddinas sy’n dda i bobl hŷn, lle mae trigolion hŷn yn teimlo’n ddiogel ac wedi’u cefnogi yn eu cymuned.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am bynciau fel digwyddiadau oed-gyfeillgar, parciau, trafnidiaeth a lleoliadau toiledau cyhoeddus ledled y ddinas.

Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd Hybiau cymunedol o amgylch y ddinas lle gallwch gael mynediad at wasanaethau’r cyngor, cyngor ariannol a chymorth gyda chyflogaeth.

Mae gan y rhan fwyaf o hybiau wasanaeth llyfrgell a thoiled sydd ar gael i’r cyhoedd hefyd.

Hubs
woman laughing

Digwyddiadau Sy’n Dda i Bobl Hŷn

Gellir dod o hyd i weithgareddau a digwyddiadau sy’n dda i bobl hŷn wedi’u lleoli mewn Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd ar draws y ddinas ar wefan Hybiau Caerdydd.

Gwirfoddoli

Mae sawl ffordd y gallwch chi helpu eich cymuned leol a’ch cymdogion:

  • Siopa i eraill
  • Mynd â’r ci am dro
  • Helpu pobl sy’n sâl neu’n hunanynysu
  • Mentora ar-lein neu gymdeithasu
  • Casglu sbwriel a chynlluniau cymunedol eraill
  • Annog busnesau a sefydliadau i gymryd camau bach o ran dementia ac addo dod yn sefydliadau sy’n Deall Dementia
Staying well at home

Dysgwch am y cyfleoedd presennol:

image of a Cardiff Bus

Trafnidiaeth

Cardiau Teithio Consesiynol

Os yw eich prif gyfeiriad yng Nghymru a’ch bod naill ai’n 60 oed neu’n hŷn neu’n bodloni meini prawf cymhwysedd anabledd y Llywodraeth, gallwch deithio am ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysus yng Nghymru a’r Gororau a chael gostyngiad neu deithio am ddim ar lawer o wasanaethau trenau.

Bydd angen:

  • Eich rhif Yswiriant Gwladol
  • Bil Treth Gyngor diweddar sy’n cynnwys enw eich cyngor lleol
  • Ffotograff pasbort digidol ohonoch chi’ch hun
  • Dogfennau prawf oedran ac adnabod fel trwydded yrru, pasbort neu dystysgrif geni

Os hoffech gael ffurflen gais bapur, ffoniwch 0300 303 4240. Gallwch gael help i wneud cais gan Hyb cymunedol.

Mae u3a (University of the Third Age) Caerdydd

Mae u3a (University of the Third Age) Caerdydd yn rhedeg grŵp Dydd Iau Pàs Bws sy’n trefnu teithiau o ganol Caerdydd gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus sy’n derbyn y Tocyn Bws Consesiynol.

Bws Caerdydd

Dewch o hyd i wybodaeth am ymadawiadau byw, llwybrau a mapiau, diweddariadau gwasanaeth a mwy ar wefan Bws Caerdydd.

Lawrlwythwch ap Bws Caerdydd cael mynediad at gynllunio siwrneiau, amseroedd byw a phrynu’ch tocynnau bws ac ati.

Cynllun Bygi

Mae Bygi Symudedd Caerdydd yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n helpu’r rhai sydd angen cymorth symudedd i fynd o le i le a mwynhau’r profiad siopa a lletygarwch llawn. Mae’r cerbyd yn teithio o amgylch canol dinas Caerdydd rhwng dau leoliad wedi’u trefnu ymlaen llaw ac mae’n gallu dal hyd at dri o deithwyr, fel y gall ffrindiau ac aelodau’r teulu ymuno.

Mae’r Bygi Symudedd yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 8am a 4pm ac ar ddydd Gwener rhwng 8am a 3.30pm. Gellir ei archebu ymlaen llaw trwy lenwi’r ffurflen gais neu ffoniwch 029 2087 3888. Pan fydd yr archeb yn cael ei gadarnhau, byddwch yn cael e-bost neu neges destun. Ar ôl cyrraedd, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dangos prawf o’ch archeb a mwynhau’r daith trwy ganol y ddinas.

VEST logo

Trafnidiaeth drwy’r Gwasanaeth Brys Gwirfoddol (VEST)

Mae VEST (Trafnidiaeth drwy’r Gwasanaeth Brys Gwirfoddol) yn darparu cludiant i bobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg nad ydynt yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Ring and Ride

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Ring and Ride’ i deithio rhwng lleoliadau yng Nghaerdydd a mynychu apwyntiadau meddygol.

Dial a Bus

Mae ‘Dial a Bus’ yn wasanaeth wythnosol sy’n cynnig cludiant i ganol dinas Caerdydd ac yn ôl. Cewch eich gollwng ar Heol Charles yng nghefn Marks and Spencer a’ch casglu o’r un lleoliad ychydig oriau yn ddiweddarach.

Toiledau Cyhoeddus

Mae cael mynediad i doiledau’n hynod bwysig i bobl allu mwynhau’r ddinas a chymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol neu weithgareddau cymdeithasol.

Mae’r Cynllun Toiledau Cymunedol yn galluogi busnesau lleol fel tafarndai, bwytai a siopau, i gydweithio gyda’r Cyngor i sicrhau bod mwy o doiledau glân, diogel a hygyrch ar gael i’r cyhoedd, heb ddisgwyl i ymwelwyr brynu rhywbeth neu ddefnyddio gwasanaeth.

Two people walking over a pedestrian bridge.
A man in a wheelchair smiling.

Lleoedd Newid

Yn aml, mae angen offer a lle ychwanegol ar bobl ag anableddau dysgu dwys a lluosog neu ag anableddau corfforol fel anafiadau i’r asgwrn cefn, nychdod cyhyrol a sglerosis ymledol i’w galluogi i ddefnyddio’r toiledau’n ddiogel ac yn gyfforddus.

Mae’r anghenion hyn yn cael eu bodloni gan doiledau Lleoedd Newid. Mae Toiledau Lleoedd Newid yn galluogi unrhyw un, waeth beth yw eu hanabledd, i fynd i’r siopau, mynychu apwyntiadau ysbyty, mwynhau bywyd cymunedol, cymdeithasu a theithio.

I weld y rhestr lawn o doiledau sydd ar gael i’r cyhoedd, edrychwch ar wefan Croeso Caerdydd. Mae Hybiau Cymunedol a Llyfrgelloedd Caerdydd yn rhan o’r cynllun ac maen nhw wedi cyhoeddi llyfryn defnyddiol sy’n manylu ar y cyfleusterau sydd ar gael ym mhob lleoliad – galwch heibio Hyb i gasglu un.

Os ydych chi’n fusnes neu’n sefydliad sy’n dymuno cynyddu nifer yr ymwelwyr, cael eich cynnwys ar wefan Croeso Caerdydd, cael sticer ffenestr am ddim a dangos eich ysbryd cymunedol, llenwch y ffurflen hon, gan fanylu ar y cyfleusterau toiledau sydd gennych. Gallwch dynnu’n ôl o’r cynllun unrhyw bryd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Cynllun Toiledau Cymunedol, e-bostiwch cyfleusterau_cyhoeddus@caerdydd.gov.uk.

Cadwch lygad am y sticer ffenestr ar y dudalen hon pan fyddwch chi allan – mae’n golygu bod y busnes neu’r sefydliad yn hapus i chi ddefnyddio eu cyfleusterau toiledau heb orfod defnyddio eu gwasanaethau.

I gael mwy o wybodaeth am y Strategaeth Toiledau Lleol yng Nghaerdydd, ewch i Strategaeth Toiledau Lleol (caerdydd.gov.uk)

people walking in a park

Parciau

Mae Caerdydd yn ffodus bod amrywiaeth gwych o barciau a gerddi wedi eu gwasgaru ar draws y ddinas, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell i ffwrdd o fan gwyrdd i ymestyn eich coesau.

Dysgwch fwy am ble mae’r parciau a’r cyfleusterau sydd ganddynt.

Panel Dinasyddion

Ydych chi’n fodlon ar y gwasanaethau rydych yn eu derbyn gan y Cyngor?

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu yng Nghaerdydd?

Mae gan Gyngor Caerdydd ei Banel Dinasyddion ei hun, sy’n cynnwys dros 5,000 o drigolion ar draws y ddinas sydd wedi cofrestru i rannu eu barn trwy amrywiaeth o arolygon ac ymgynghoriadau drwy gydol  y flwyddyn.

A woman listening in a group discussion.

Ar hyn o bryd, dim ond tua thraean o’r Panel sy’n 55 oed neu’n hŷn, a does dim digon o ymatebion gan bobl dros 75 oed i gynrychioli nifer y preswylwyr yn y grŵp oedran hwnnw yn iawn.   Mae clywed gan amrywiaeth o drigolion yn golygu bod y Cyngor yn gallu gwybod yn well beth mae pobl ei angen, sydd yn ei dro yn eu helpu i wella gwasanaethau.

Gallwch ymuno drwy lenwi’r ffurflen ar-lein neu godi copi papur yn eich Hyb neu lyfrgell leol.  Mae croeso i unrhyw un sy’n byw yng Nghaerdydd gofrestru, ond mae’r tîm yn arbennig eisiau clywed gan drigolion 75 oed neu’n hŷn.

Fforwm Da i Bobl Hŷn Caerdydd

Bydd Fforwm Da i Bobl Hŷn Caerdydd yn lansio ym mis Mai 2023.

Bydd y fforwm yn cael ei gynnal gan Gyngor Caerdydd ac yn cael ei gadeirio gan Hyrwyddwr Pobl Hŷn Caerdydd, y Cynghorydd Mackie. Ymgynghori, casglu a rhannu gwybodaeth fydd prif bwrpas y fforwm, gyda’r nod cyffredinol o archwilio sut y gellir gwella bywydau pobl hŷn yng Nghaerdydd.

Os hoffech gynnig cynrychiolydd o’ch sefydliad neu grŵp person hŷn ar gyfer aelodaeth, anfonwch e-bost â oed-gyfeillgar@caerdydd.gov.uk.

Fforwm 50+

Mae’r Fforwm 50+ yn cynnwys dinasyddion Caerdydd 50 oed a throsodd, sy’n rhoi cymorth gwerthfawr i’r cyngor pan fydd datblygiadau newydd yn cael eu hystyried drwy fynychu a rhannu eu barn mewn digwyddiadau ymgynghori.

Os hoffech ymuno â’r Fforwm 50+ neu os oes gennych unrhyw gwestiynau amdano, cysylltwch â oed-gyfeillgar@caerdydd.gov.uk.

Newidiadau i’r ffordd rydych yn pleidleisio’n bersonol

O fis Mai 2023, bydd cyfraith newydd sy’n golygu y bydd yn rhaid i chi ddangos llun adnabod mewn gorsafoedd pleidleisio cyn y gallwch bleidleisio yn bersonol. Byddwch ei angen ar gyfer Etholiadau Senedd y DU a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu, ond ni fydd ei angen arnoch ar gyfer etholiadau Senedd Cymru na llywodraeth leol yng Nghymru.

Ewch i wefan Cyngor Caerdydd am fwy o wybodaeth am newidiadau i etholiadau.

Ask Cardiff

Holi Caerdydd

Mae Holi Caerdydd yn arolwg blynyddol a gynhelir gan Gyngor Caerdydd. Mae’r arolwg yn rhoi cyfle i bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd a’r rhai sy’n ymweld â’r ddinas i rannu eu profiadau o wasanaethau cyhoeddus.

Hoffem glywed gan gynifer o bobl â phosib, a wnewch chi annog eich ffrindiau, teulu a chymdogion i gwblhau’r arolwg – pob oedran, pob cefndir ac o bob rhan o’r ddinas.