Eich Cartref

Wrth i ni fynd yn hŷn, mae aros yn annibynnol yn ein cartref yn dod yn bwysicach byth.

Weithiau efallai y bydd angen cymorth a chefnogaeth arnom i barhau i fyw gartref yn ddiogel.

Gallwch ddod o hyd i gyngor a gwasanaethau a fydd yn eich helpu i gadw’n ddiogel ac yn annibynnol gartref cyhyd ag y bo modd.

Pryd ar Glud

Mae Pryd ar Glud yn dosbarthu prydau poeth, maethlon i breswylwyr ac yn darparu ar gyfer amrywiaeth o ddeietau ac chyflyrau.

Maent yn wyneb croesawgar a chyfarwydd, ac mewn rhai achosion, maent yn gyswllt i’r cleientiaid â’r byd y tu allan.

Meals on Wheels
Telecare

Teleofal

Mae Teleofal Caerdydd yn helpu preswylwyr bregus, anabl ac oedrannus i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Pan ddewch yn gwsmer Teleofal Caerdydd, cewch larwm crogdlws ac uned ymateb y gallwch eu defnyddio i gysylltu â ni os ydych yn cael trafferthion.  Mae’r gwasanaeth larwm Teleofal yn sicrhau bod gennych rywun i alw am help.

Ailgylchu a gwastraff

Os oes angen help arnoch i gasglu’ch ailgylchu a’ch gwastraff, gallwch gysylltu â ni i ofyn am help i roi eich bagiau a’ch biniau allan.
Mae’r cyngor hefyd yn cynnig casgliadau hylendid os na allwch ffitio eich gwastraff hylendid (er enghraifft gwastraff anymataliaeth) i’ch lwfans bin du neu bag du ar gyfer casgliad bob pythefnos.

Er mwyn gwneud cais am wasanaeth casgliad cofnod neu am gasgliadau hylendid, ffoniwch C2C ar 029 2087 2088.

Dod o hyd i’ch stociwr lleol ar gyfer bagiau ailgylchu gwyrdd a bagiau cadi bwyd.

gabrielle-henderson-HJckKnwCXxQ-unsplash

Gwasanaethau treth gyngor

Gallwch gael help gydag ymholiadau treth gyngor gan hybiau a llyfrgelloedd penodol, fel:

  • sefydlu neu newid debyd uniongyrchol,
  • newid eich cyfeiriad, a
  • darganfod pa ostyngiadau y gallech eu cael.

Dewch o hyd i’ch llyfrgell neu hyb agosaf.

Ymholiadau tai

Gall hybiau a llyfrgelloedd eich helpu gyda gwybodaeth am dai.

Budd-dal tai

Os ydych am wneud cais neu gael gwybodaeth am fudd-dal tai, gallwch wneud hyn mewn rhai hybiau.

Dewch o hyd i hybiau sy’n cynnig gwybodaeth am fudd-dal tai.

Ceisiadau ac ymholiadau’r rhestr aros tai

Os ydych am wneud cais am y rhestr aros tai, neu am gael gwybodaeth am yr amseroedd aros, gallwch wneud hyn mewn rhai hybiau.

Dewch o hyd i hybiau sy’n cynnig gwybodaeth am y rhestr aros tai.

HousingEnquiries
Senior man relaxing

Gwasanaeth Byw’n Annibynnol

Gall Gwasanaethau Byw’n Annibynnol eich cynorthwyo i gael ystod eang o gymorth i fyw mor annibynnol â phosibl.

Gallant roi help a chyngor i chi ar fudd-daliadau i wneud y mwyaf o’ch incwm. Yn ogystal, gallant eich helpu i leihau eich taliadau drwy roi cyngor ar sut i wneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon a dweud wrthych am unrhyw grantiau neu ostyngiadau mae’n bosibl y byddwch yn gymwys ar eu cyfer.

Help gyda’ch gardd

Ydych chi’n cael trafferth gyda gardd sydd wedi gordyfu neu wastraff gardd dieisiau?

Mae’r Tîm Lleol yma i helpu – mae’n dîm cymunedol gyda Chyngor Caerdydd sydd wedi’i neilltuo i wella mannau awyr agored ledled Caerdydd. Mae’n gallu cynnig ymweliad untro i helpu trigolion i glirio gordyfiant a gwastraff dieisiau o’u gerddi sy’n gallu bod yn dasg enfawr, yn enwedig i’r rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain neu mae llai o symudedd ganddynt.

Am fwy o wybodaeth, neu i weld a all y Tîm Lleol helpu i glirio’ch gardd, cysylltwch â’r tîm ar 02920 872 787 neu anfonwch e-bost i TimLleol@caerdydd.gov.uk.

A woman helping a man with a walking stick in the garden.
man in kitchen

Gofal a Thrwsio

Cenhadaeth Gofal a Thrwsio Caerdydd a’r Fro yw cefnogi pobl hŷn i atgyweirio, addasu a chynnal a chadw eu cartrefi.  Eu nod yw sicrhau bod pob person hŷn yn gallu byw mewn cartrefi saff, diogel, cynnes a chyfforddus sy’n addas iddynt hwy a’u bywydau ac sy’n gwneud y mwyaf o’u hannibyniaeth. Mae Gofal a Thrwsio yn darparu nifer o wasanaethau sy’n cefnogi ac yn helpu pobl hŷn i gwblhau atgyweiriadau, gwelliannau ac addasiadau i’w cartrefi, drwy ddarparu cyngor arbenigol, cefnogaeth a chymorth ymarferol.

Mae Ymdopi’n Well yn wasanaeth ymweld â’r cartref am ddim sy’n cynnig cyngor a chymorth ymarferol i bobl dros 50 oed sydd wedi colli eu clyw, colli golwg, dementia, neu sydd wedi cael strôc. Bydd gweithwyr achos ymroddedig yn ymweld â phobl gartref ac yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol, cymorth ymarferol a hyd yn oed addasiadau i’r cartref er mwyn galluogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gael mynediad at y gwasanaeth Gofal a Thrwsio, ffoniwch 02920 473337 neu anfonwch e-bost at careandrepair@crcv.org.uk.

A man and a woman looking at a mobile phone screen and a laptop.

AskSARA

Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio teclyn hunan-gymorth ar-lein dan gyfarwyddyd o’r enw AskSARA i helpu pobl a allai fod angen cymorth i gynnal gweithgareddau bob dydd.

Mae AskSARA wedi’i  gynllunio i ategu Gwasanaethau Byw’n Annibynnol, gan ddarparu llwybr ychwanegol ar gyfer gwybodaeth a chyngor sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Gall y gwasanaeth gael ei ddefnyddio gan ddinasyddion, teuluoedd, gofalwyr a staff i’w helpu eu hunain ac eraill i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Profion diogelwch cartref y Gwasanaeth Tân

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu’r gymuned a lleihau marwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i danau a sefyllfaoedd brys eraill.

Gallwch gwblhau asesiad o drefniadau diogelwch tân yn eich cartref. Cwblheir hyn ar-lein ac mae’n cwmpasu amrywiaeth o elfennau diogelwch ac iechyd gan gynnwys larymau mwg, coginio, ysmygu a thrydan.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnig cyfle i gael ymweliad Diogelwch Cartref am ddim yn eich cartref.

Addison House

Strategaeth Tai Pobl Hŷn

Mae Strategaeth Tai Pobl Hŷn Caerdydd yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol i sicrhau’r canlyniadau gorau i bob person hŷn yng Nghaerdydd o ran tai.

Bu cynnydd amlwg ar y cynlluniau tai parhaus yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys tai Gofal Barod sy’n ceisio diogelu cartrefi at y dyfodol er mwyn caniatáu ehangu neu gyflwyno gofal.

Cynlluniau tai

Gallwch ddarganfod mwy am y cynlluniau tai hyn ar gyfer pobl hŷn yng Nghaerdydd:

Egwyddorion Panel Arloesedd Cartrefu ein Poblogaeth sy’n Heneiddio (PACPH)

Mae egwyddorion PACPH yn seiliedig ar 10 o feini prawf dylunio allweddol. Maent yn bwysig i gartrefi pobl hŷn sydd angen dewis amgen deniadol i gartref teuluol ac yn gallu addasu dros amser i ddiwallu anghenion sy’n newid. Maent yn adlewyrchu:

  • Gofod a hyblygrwydd
  • Golau dydd yn y cartref ac mewn mannau a rennir
  • Balconïau a mannau yn yr awyr agored
  • Dyluniad y mae modd ei addasu ac yn ‘barod ar gyfer gofal’
  • Defnydd cadarnhaol o ofod cylchrediad
  • Cyfleusterau a rennir a ‘hybiau’
  • Planhigion, coed a’r amgylchedd naturiol
  • Effeithlonrwydd ynni a dyluniad cynaliadwy
  • Lle i storio eiddo a beiciau
  • Arwynebau allanol a rennir a ‘pharthau cartrefi’