Amdanom ni
Mae Caerdydd sy’n Dda i Bobl Hŷn yn rhwydwaith o sefydliadau sy’n cynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Gwasanaeth Tân ac Achub De-ddwyrain Cymru, partneriaid yn y trydydd sector a gwasanaethau eraill sydd wedi ymrwymo i wneud y ddinas yn lle gwell i dyfu’n hŷn.
Daeth Caerdydd yn aelod o Rwydwaith Byd-eang ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd ym mis Mawrth 2022. Sefydlwyd y Rhwydwaith yn 2010 i gysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau ledled y byd gyda’r weledigaeth gyffredin o wneud eu cymuned yn lle gwych i heneiddio.
Addewidion Caerdydd Sy’n Dda i Bobl Hŷn i’r Bobl Hŷn
Byddwn yn:
- Sicrhau bod ein dinasyddion yn gallu byw’n annibynnol, a’u bod yn gysylltiedig â’u cymunedau, gan ystyried yr hyn sy’n bwysig iddynt
- Creu cymunedau cryf a datblygu rhwydweithiau cymunedol cryf a all gefnogi pobl hŷn i fyw’n dda
- Darparu gwasanaethau’n lleol, yn agos at gartrefi dinasyddion yn sylfaen ar gyfer darparu gwasanaethau di-dor sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Gweithio tuag at ddod yn Ddinas sy’n Deall Dementia sy’n helpu pobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd i ffynnu
- Sicrhau bod pobl hŷn yn gallu mwynhau pob agwedd ar fywyd y ddinas a’u bod yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau i wella eu lles ac i gyfoethogi eu bywydau
- Creu dinas sy’n agored ac yn hygyrch i bawb, a gweithio tuag at greu system drafnidiaeth y mae gan bawb yr hyder i’w defnyddio
- Cyflawni’r canlyniadau gorau wrth ddarparu tai i’r holl bobl hŷn sy’n byw yng Nghaerdydd
- Cydweithio â phobl hŷn, eu gofalwyr, gweithwyr cymorth a theuluoedd i wella arferion asesu, diagnosis a chynllunio gofal fel bod eu cynllun yn adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig iddynt ac yn cyflawni’r canlyniadau y maent yn eu ceisio.
Dysgwch am fannau gwyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus, digwyddiadau a gwasanaethau yng Nghaerdydd.
Adroddiad blynyddol
Mae Crynodeb Adroddiad Blynyddol Caerdydd sy’n Dda i Bobl Hŷn 2022 i 2023 yn amlinellu’r cynnydd y mae’r ddinas wedi’i wneud ar draws yr wyth maes ffocws allweddol:
- Cymorth Cymunedol a Gwasanaethau Iechyd
- Tai
- Mannau Agored ac Adeiladau Cyhoeddus
- Trafnidiaeth
- Cyfranogiad Cymdeithasol
- Cyfathrebu a Gwybodaeth
- Cyfranogiad Dinesig a Chyflogaeth
- Parch a Chynhwysiant Cymdeithasol
Gweld Crynodeb o Adroddiad Blynyddol Caerdydd sy’n Dda i Bobl Hŷn 2022 i 2023 (5.2mb PDF).
Gweld Adroddiad Blynyddol Caerdydd sy’n Dda i Bobl Hŷn 2022 i 2023 (5.8mb PDF).