Digwyddiadau ar gyfer gofalwyr
Digwyddiadau am ddim i ofalwyr
Mae cyfleoedd gwych i fynd i amrywiaeth o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd, cyfarfod pobl o’r un meddylfryd a chael ychydig o hwyl!
Grŵp Gofalwyr Solace yn ASDA Bae Caerdydd
Bob Dydd Llun – 2pm i 4pm.
Dewch i fwynhau ystod o weithgareddau addas i bob gallu, gan gynnwys cwisiau a chrefftau.
Yn agored i ofalwyr sy’n cefnogi ffrind neu berthynas 65 oed a hŷn sydd â diagnosis o ddementia neu anhawster cof neu unrhyw salwch iechyd meddwl arall.
Grŵp Galw Heibio SOLACE yng Nghanolfan Sbectrwm V21, Y Tyllgoed
Grŵp Galw Heibio i bobl sy’n byw yng Nghaerdydd sy’n cefnogi ffrind neu berthynas sydd â diagnosis o ddementia neu anhawster cof.
Dewch i fwynhau ystod o weithgareddau sy’n addas i bawb o bob gallu, gan gynnwys cwisiau a chrefftau.
Bob Dydd Mawrth o 1:30 i 3:30pm.
Côr Caerdydd i Ofalwyr – Dydd Mawrth Swynol yn Hyb Trelái a Chaerau
Barod am seibiant swynol?
Dewch i gwrdd ag eraill am ychydig o Tai Chi, ac yna cyfle i forio canu!
Bob Dydd Mawrth rhwng 11am ac 1pm.
11am i 11:45am – Tai Chi.
12pm i 1pm – Côr.
Clwb Gofalwyr ACE yng Nghanolfan Dreftadaeth CAER
Bore coffi sydd ar agor i unrhyw un sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind yw’r Clwb Gofalwyr.
Dewch draw i’r Clwb Gofalwyr lle bydd paned a bisgedi/cacen yn aros amdanoch chi!
Bob Dydd Mawrth rhwng 10am i 11:30am.
Soundworks yn Neuadd Dewi Sant
Mae Soundworks yn sesiynau cerddoriaeth rheolaidd am ddim yn ystod y tymor i oedolion ag anableddau dysgu neu awtistiaeth yn ogystal â’r rhai sy’n gofalu amdanynt.
Bob Dydd Mawrth o 11am i 12:30pm.
Mae croeso i aelodau newydd bob amser, cysylltwch â Soundworks drwy e-bost: a2@artsactive.org.uk neu drwy ffonio 02920 878572.
Caffi Lles yn Llyfrgell Treganna
Dydd Iau diwethaf y mis – 2:30pm i 3:30pm.
Dewch i ymuno â ni am baned a sgwrs a rhoi hwb i’ch lles.
Cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd.
Am fwy o ddigwyddiadau mewn canolfannau cymunedol a llyfrgelloedd, ewch i wefan Hyb.
Grŵp Cymorth Cymheiriaid y Gymdeithas Alzheimers (Rhithwir)
Mae’r grŵp cymorth ar gyfer unrhyw berson sy’n gofalu am rywun sy’n byw gyda dementia, naill ai yn eu cartref eu hunain neu mewn cartref preswyl.
Ail ddydd Mawrth y mis rhwng 3:45pm a 5pm.
Os hoffech ymuno â’r cyfarfod ar Zoom, cysylltwch â Jacky Ayres ar 07484 089 481 neu e-bostiwch jacqueline.ayres@alzheimers.org.uk.
Caffi Atgofion Home Instead yn Eglwys y Bedyddwyr Ararat, Yr Eglwys Newydd
Mae’r Caffi Atgofion yn sesiwn am ddim i’r rhai sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd ac unrhyw un sy’n gofalu amdanynt.
Dewch draw, mwynhewch weithgareddau llawn hwyl a chwrdd â ffrindiau newydd.
Dydd Mercher cyntaf y mis o 11:15am i 12:45pm.
I ymuno, cysylltwch â Chrissy drwy e-bost christine.darby@homeinstead.co.uk neu ffoniwch 02920 569483.
Tai Chi gyda Jeanette yn Hyb STAR
Bob Dydd Gwener – 11am i 1pm.
Cyfres o symudiadau yw Tai Chi sy’n gallu gwella cydbwysedd corfforol yn ogystal â meddyliol, gwella cryfder, hyblygrwydd a chydsymudiad. Ac mae’n hwyl!
11am – 15 munud o gynhesu
11:15am i 11:40am – Tai Chi lefel 1
12:30pm i 1pm – Tai Chi lefel 2 (i’r rhai sy’n teimlo’n hyderus i symud ymlaen o lefel 1).