Gofalu am eraill
Os ydych chi’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind, gallwch ddod o hyd i gyngor, cefnogaeth a gwasanaethau i’ch helpu chi a’r person rydych chi’n gofalu amdano.
Asesiadau Gofalwyr
Ydych chi angen help i ofalu am bartner, perthynas neu ffrind? Rydym am i chi gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i wneud eich bywyd yn haws fel gofalwr.
Gallai cael asesiad gofalwr fod y cam cyntaf tuag at gael cymorth hanfodol. Dyma eich cyfle i gael sgwrs gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion i siarad am yr help sydd ei angen arnoch. Bydd yr asesiad yn edrych ar y gefnogaeth a gewch ar hyn o bryd ac a allai gwasanaethau eraill fod o ddefnydd. Byddwch hefyd yn cael cynnig cyngor ar unrhyw fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt ac unrhyw ffynonellau cymorth eraill.
Mae asesiad gofalwr yn rhad ac am ddim a gall unrhyw un dros 18 oed ofyn am un. Os hoffech gael asesiad, ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion ar 029 2023 4234.
Gofalwyr Cymru
Pan fyddwch chi’n gofalu, gall cael y wybodaeth gywir ar yr adeg iawn wneud byd o wahaniaeth.
Gofalwyr Cymru yw’r brif elusen genedlaethol sy’n ymroddedig i wella bywyd gofalwyr di-dâl. Mae gofalwyr wrth wraidd ein holl waith, yn siapio eu hymgyrchoedd, yn helpu i ledaenu eu neges yn y cyfryngau ac yn gweithredu i sicrhau newid ar lefel leol a chenedlaethol.
Mae Gofalwyr Cymru yn darparu gwybodaeth a chyngor ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys:
- budd-daliadau a chymorth ariannol
- eich hawliau fel gofalwr yn y gweithle.
- asesiadau gofalwyr a sut i gael cymorth yn eich rôl ofalu
- gwasanaethau ar gael i ofalwyr a’r bobl rydych yn gofalu amdanynt
- sut i wneud cwyn yn effeithiol a herio penderfyniadau.
Maent hefyd yn darparu gweithgareddau ar-lein am ddim i gefnogi eich lles, eich helpu i gymryd seibiant a chysylltu â gofalwyr eraill.
Os oes gennych gwestiwn am ofalu neu os oes angen mwy o gymorth arnoch, mae Llinell Gymorth Gofalwyr Cymru ar gael ar 0808 808 7777 o Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am – 6pm, neu gallwch e-bostio advice@carersuk.org.
Protocol Herbert
Pan fydd person yn mynd ar goll, mae’n peri gofid mawr i deulu a ffrindiau a gall fod hyd yn oed yn fwy pryderus pan fydd gan y person coll ddementia.
Mae Protocol Herbert yn ffurflen y gall gofalwyr, aelodau o’r teulu neu ffrindiau ei llenwi i helpu’r heddlu i chwilio am bobl â dementia sy’n mynd ar goll. Gall cael y wybodaeth hon yn barod i’w darparu arbed amser a phryder. Mae’r ffurflen yn cynnwys rhestr o wybodaeth i helpu’r heddlu, gan gynnwys:
- meddyginiaeth angenrheidiol
- rhif ffôn symudol
- lleoedd y daethpwyd o hyd iddynt yn ddiweddar
- ffotograff diweddar
Dim ond ar yr adeg yr adroddir bod y person ar goll y mae angen y ffurflen. Fodd bynnag, gallwch anfon copi at herbertprotocol@south-wales.police.uk os ydych yn dymuno i Heddlu De Cymru gadw copi digidol o’r ffurflen ar ffeil.
Os yw’r person rydych yn gofalu amdano yn mynd ar goll, chwiliwch am y cyfeiriad, y tir a’r adeiladau allanol, i weld a allwch ddod o hyd iddynt. Os ydyn nhw’n dal ar goll, ffoniwch 999 ar unwaith a dywedwch wrth yr heddlu bod proffil Protocol Herbert ar gael.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Heddlu De Cymru, neu gallwch lawrlwytho’r ffurflen.
Newyddlen Care’Diff
Mae Newyddlen Care’Diff yn gylchlythyr chwarterol sy’n rhoi gwybod i chi am newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth ddefnyddiol i wneud eich bywyd yn haws fel gofalwr. Rydyn ni’n gwybod y gwaith pwysig rydych chi’n ei gwneud yn gofalu am aelodau neu ffrindiau eich teulu ac yn sylweddoli bod hyn yn gallu bod yn heriol. Gobeithio y bydd y cylchlythyr hwn yn ddefnyddiol. Os oes unrhyw beth yr ydych chi’n meddwl fyddai’n dda canolbwyntio arno neu ei gynnwys, rhowch wybod i ni.
Mae Newyddlen Care’Diff ar gael drwy’r post neu e-bost. Os hoffech gael eich cynnwys ar y rhestr bostio cylchlythyr, cysylltwch â dinasgofal@caerdydd.gov.uk a byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y rhifynnau newydd wrth iddynt gael eu cyhoeddi.
Gallwch hefyd ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion, gweithgareddau a’r wybodaeth ddefnyddiol ddiweddaraf.
Grŵp Cymorth Dinas Gofal
Dyma eich cyfle i siarad â ni ac eraill sydd â phrofiad o ofalu. Galwch heibio cyhyd ag y dymunwch ac mae croeso i chi ddod â’r person rydych chi’n gofalu amdano. Dewch i gael paned o de, cael mynediad i weithgareddau hwyl a chymryd seibiant.
Hyb y Powerhouse
Ddydd Mercher cyntaf y mis – 2pm i 3:30pm.
Hyb Trelái a Caerau
Ail ddydd Gwener y mis – 1pm i 2:30pm.
Hyb Rhiwbeina
Drydydd dydd Mercher y mis – 2pm i 3:30pm.
Hyb STAR
Dydd Llun olaf y mis – 2pm i 3:30pm.
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn cynnwys y bwrdd iechyd, awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector sy’n cydweithio i ddarparu gwasanaethau iechyd, gofal a chymorth sy’n diwallu anghenion pobl sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Maen nhw eisiau sicrhau eich bod chi’n cael y gefnogaeth gywir, ar yr adeg iawn, yn y lle iawn.
Ar ôl gwrando ar brofiadau gofalwyr di-dâl a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt, mae’r bwrdd wedi lansio’r Siarter Gofalwyr Di-dâl i helpu pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i ddeall a allen nhw, neu rywun y maent yn ei adnabod, fod yn ofalwr di-dâl. Mae’r Siarter hefyd yn addo ymrwymiad partneriaid ar draws y rhanbarth ac yn amlinellu sut y byddant yn eich helpu os ydych yn gofalu am rywun.
Os oes angen cymorth arnoch, ffoniwch Care Collective ar 02921 921024 neu e-bostiwch gateway@thecarecollective.cymru.
Digwyddiadau am ddim i ofalwyr
Mae cyfleoedd gwych i fynd i amrywiaeth o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd, cyfarfod pobl o’r un meddylfryd a chael ychydig o hwyl!
Grŵp Gofalwyr Solace yn ASDA Bae Caerdydd
Bob Dydd Llun – 2pm i 4pm.
Dewch i fwynhau ystod o weithgareddau addas i bob gallu, gan gynnwys cwisiau a chrefftau.
Yn agored i ofalwyr sy’n cefnogi ffrind neu berthynas 65 oed a hŷn sydd â diagnosis o ddementia neu anhawster cof neu unrhyw salwch iechyd meddwl arall.
Grŵp Galw Heibio SOLACE yng Nghanolfan Sbectrwm V21, Y Tyllgoed
Grŵp Galw Heibio i bobl sy’n byw yng Nghaerdydd sy’n cefnogi ffrind neu berthynas sydd â diagnosis o ddementia neu anhawster cof.
Dewch i fwynhau ystod o weithgareddau sy’n addas i bawb o bob gallu, gan gynnwys cwisiau a chrefftau.
Bob Dydd Mawrth o 1:30 i 3:30pm.
Côr Caerdydd i Ofalwyr – Dydd Mawrth Swynol yn Hyb Trelái a Chaerau
Barod am seibiant swynol?
Dewch i gwrdd ag eraill am ychydig o Tai Chi, ac yna cyfle i forio canu!
Bob Dydd Mawrth rhwng 11am ac 1pm.
11am i 11:45am – Tai Chi.
12pm i 1pm – Côr.
Clwb Gofalwyr ACE yng Nghanolfan Dreftadaeth CAER
Bore coffi sydd ar agor i unrhyw un sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind yw’r Clwb Gofalwyr.
Dewch draw i’r Clwb Gofalwyr lle bydd paned a bisgedi/cacen yn aros amdanoch chi!
Bob Dydd Mawrth rhwng 10am i 11:30am.
Soundworks yn Neuadd Dewi Sant
Mae Soundworks yn sesiynau cerddoriaeth rheolaidd am ddim yn ystod y tymor i oedolion ag anableddau dysgu neu awtistiaeth yn ogystal â’r rhai sy’n gofalu amdanynt.
Bob Dydd Mawrth o 11am i 12:30pm.
Mae croeso i aelodau newydd bob amser, cysylltwch â Soundworks drwy e-bost: a2@artsactive.org.uk neu drwy ffonio 02920 878572.
Caffi Lles yn Llyfrgell Treganna
Dydd Iau diwethaf y mis – 2:30pm i 3:30pm.
Dewch i ymuno â ni am baned a sgwrs a rhoi hwb i’ch lles.
Cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd.
Am fwy o ddigwyddiadau mewn canolfannau cymunedol a llyfrgelloedd, ewch i wefan Hyb.
Grŵp Cymorth Cymheiriaid y Gymdeithas Alzheimers (Rhithwir)
Mae’r grŵp cymorth ar gyfer unrhyw berson sy’n gofalu am rywun sy’n byw gyda dementia, naill ai yn eu cartref eu hunain neu mewn cartref preswyl.
Ail ddydd Mawrth y mis rhwng 3:45pm a 5pm.
Os hoffech ymuno â’r cyfarfod ar Zoom, cysylltwch â Jacky Ayres ar 07484 089 481 neu e-bostiwch jacqueline.ayres@alzheimers.org.uk.
Caffi Atgofion Home Instead yn Eglwys y Bedyddwyr Ararat, Yr Eglwys Newydd
Mae’r Caffi Atgofion yn sesiwn am ddim i’r rhai sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd ac unrhyw un sy’n gofalu amdanynt.
Dewch draw, mwynhewch weithgareddau llawn hwyl a chwrdd â ffrindiau newydd.
Dydd Mercher cyntaf y mis o 11:15am i 12:45pm.
I ymuno, cysylltwch â Chrissy drwy e-bost christine.darby@homeinstead.co.uk neu ffoniwch 02920 569483.
Tai Chi gyda Jeanette yn Hyb STAR
Bob Dydd Gwener – 11am i 1pm.
Cyfres o symudiadau yw Tai Chi sy’n gallu gwella cydbwysedd corfforol yn ogystal â meddyliol, gwella cryfder, hyblygrwydd a chydsymudiad. Ac mae’n hwyl!
11am – 15 munud o gynhesu
11:15am i 11:40am – Tai Chi lefel 1
12:30pm i 1pm – Tai Chi lefel 2 (i’r rhai sy’n teimlo’n hyderus i symud ymlaen o lefel 1).
Hyfforddiant a Datblygu Gofal Cymdeithasol Caerdydd
Ydych chi’n helpu i ofalu am rywun sy’n byw yng nghymuned Caerdydd – aelod o’r teulu, cymydog neu ffrind?
A oes unrhyw bynciau neu dasgau rydych chi’n ymgymryd â nhw yn eich rôl ofalu yr hoffech chi gael hyfforddiant, gwybodaeth, cyngor neu gymorth pellach arnynt?
Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi fanteisio ar gyfleoedd dysgu a datblygu Gofal Cymdeithasol Cyngor Caerdydd?
Mae llawer o gyfleoedd dysgu ar gael, gan gynnwys:
- gwybodaeth am y camau gofalu
- adnoddau arbenigol ar bynciau fel dementia
- atal heintiau
- codi a chario
- cymorth cyntaf
- gweinyddu meddyginiaeth
- gofal ymataliaeth
- gofal diwedd oes a llawer mwy.
Mae cymysgedd o ffyrdd y gallwch ddysgu gyda Thîm Hyfforddiant a Datblygu Gofal Cymdeithasol Caerdydd, fel:
gweithlyfrau
e-Ddysgu
wyneb yn wyneb
ystafell ddosbarth rhithwir (hyfforddiant byw ar eich cyfrifiadur).
Gweler y calendr hyfforddiant a datblygu.
I gael mynediad at e-ddysgu, gweithlyfrau ac adnoddau dysgu pellach, ffoniwch 029 2087 1111 neu e-bostiwch scwdp@caerdydd.gov.uk.
Gwyliau Byr (Seibiant)
Rydyn ni’n gwybod y gwaith pwysig rydych chi’n ei wneud yn gofalu am aelodau o’ch teulu neu’ch ffrindiau ac yn sylweddoli bod hyn yn gallu bod yn heriol. Gall cymryd seibiant roi amser i chi ymlacio, gofalu amdanoch eich hun a gwneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau.
Mae yna lawer o ffyrdd o gymryd hoe. Efallai y bydd angen awr arnoch bob wythnos, diwrnod yma ac acw, wythnos neu ddwy ar gyfer gwyliau, neu gyfuniad o’r rhain i gyd. Efallai bod gennych deulu a ffrindiau sy’n gallu helpu, ond mae opsiynau eraill i roi seibiant i chi, gan gynnwys:
- Gofal yn y cartref – cael gofalwr cyflogedig neu wirfoddolwr i ddod i mewn i’ch cartref.
- Gofal preswyl neu nyrsio – Gall y person rydych chi’n ei gefnogi gael arhosiad byr mewn cartref gofal.
- Gofal dydd – Gall y person rydych chi’n ei gefnogi fynd i ganolfan ddydd neu leoliad cymunedol neu gymryd rhan mewn gweithgareddau oddi cartref.
- Gwyliau• Cymorth a chefnogaeth ar gyfer pan fyddwch chi am fynd ar eich gwyliau ar eich pen eich hun neu gyda’r person rydych chi’n gofalu amdano.
- Cynllun Rhannu Bywydau – Os byddai’n well gan y person rydych chi’n ei gefnogi fyw mewn cartref teuluol, gallant aros mewn cartref Gofalwr sy’n Cysylltu Bywydau a chael yr holl help sydd ei angen arnynt.
- Taliadau Uniongyrchol – defnyddio taliadau arian parod gan y gwasanaethau cymdeithasol i drefnu gofal i’ch anwylyd.
I drafod pa opsiynau allai fod ar gael i chi, cysylltwch â’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion ar 029 2023 4234.