Sgrinio Canser y Coluddyn

The Herbert Protocol

Sgrinio Canser y Coluddyn

Mae sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yn helpu i ganfod canser yn gynnar pan fydd triniaeth yn debygol o fod yn fwy effeithiol – bydd o leiaf 9 o 10 person yn goroesi canser y coluddyn os yw’n cael ei ganfod a’i drin yn gynnar.

Mae’n gyflym ac yn hawdd defnyddio pecyn prawf gartref a’i ddychwelyd drwy Radbost.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â llinell gymorth Rhadffon Sgrinio Coluddyn Cymru ar 0800 294 3370 neu e-bostiwch phw.bsw@wales.nhs.uk.

Os oes gennych unrhyw symptomau coluddyn neu’n poeni am hanes canser y coluddyn yn eich teulu, siaradwch â’ch meddyg teulu.