Llyfrau Daioni Darllen ar Bresgripsiwn

Llyfrau Daioni Darllen ar Bresgripsiwn

Mae Daioni Darllen yn eich cefnogi i ddeall a rheoli eich iechyd a’ch lles gan ddefnyddio llyfrau darllen defnyddiol.

Mae llyfrau Daioni Darllen i gyd yn cael eu cymeradwyo gan arbenigwyr iechyd, pobl sy’n byw gyda’r cyflyrau a’u perthnasau a’u gofalwyr.

Mae Daioni Darllen ar gyfer iechyd meddwl yn rhoi gwybodaeth a chymorth defnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae rhai llyfrau hefyd yn cynnwys straeon personol gan bobl sy’n byw ag anghenion iechyd meddwl neu sy’n gofalu dros rhywun ag anghenion.

Mae yna 37 o lyfrau yn y casgliad iechyd meddwl, sydd hefyd wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg.

Mae casgliad llawn ar gael ym mhob Hyb neu Lyfrgell yng Nghaerdydd ac mae aelodau llyfrgell yn gallu benthyg y llyfrau am ddim am 6 wythnos. Nid oes unrhyw ddirwyon hwyr ynghlwm â’r benthyciadau hyn. Mae rhai llyfrau hefyd ar gael i’w benthyg fel e-lyfrau a llyfrau llafar. Ewch i Hunan-gofrestru Caerdydd i ymuno â’r llyfrgell a chael mynediad at lyfrau yn electronig.

Mae yna hefyd restr o lyfrau Daioni Darllen ar gyfer dementia, sy’n argymell deunyddiau darllen i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl o ddementia, gan gefnogi gofalwyr pobl sydd â diagnosis o ddementia a’r rhai sy’n poeni am eu cof.

Yn ogystal â chynnig llyfrau, mae gan rai hybiau a llyfrgelloedd gyfryngau eraill i chi eu mwynhau hefyd, fel:

  • Adnoddau electronig (e-lyfrau, llyfrau sain, e-bapurau newydd ac e-gylchgronau), a
  • Chyhoeddiadau iaith gymunedol

Dewch o hyd i’ch llyfrgell neu hyb agosaf.