Cymorth Cyflogaeth
Cymorth Cyflogaeth
Mae ymgyrch gan y llywodraeth wedi’i lansio i helpu’r rhai 50+ oed sy’n ddi-waith i ail-ymuno â’r farchnad swyddi. Mae Pencampwyr 50+ ymrwymedig yn gweithio’n uniongyrchol gyda Chanolfannau Byd Gwaith a chyflogwyr i gael gwared ar rwystrau sy’n cadw gweithwyr hŷn allan o’r farchnad swyddi. Mae’r Pencampwyr yn cynorthwyo Hyfforddwyr Gwaith i newid agweddau cyflogwyr ynglŷn â llogi pobl dros 50 oed, yn ogystal â paru ceiswyr gwaith gyda chyfleoedd sy’n addas i’w sgiliau.
Mae gwasanaeth MOT Canol Oed y Ganolfan Byd Gwaith wedi’i gyflwyno sy’n cefnogi pobl i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae MOT canol oed yn ffordd wych i’ch helpu i bwyso a mesur eich opsiynau. Beth bynnag fo’ch sefyllfa, mae’n bwysig cynllunio ar gyfer eich bywyd hwyrach a meddwl am eich iechyd, eich gwaith a’ch arian.
Os ydych chi’n berson hŷn sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac yn gobeithio ail-ymuno â’r farchnad swyddi, siaradwch â’ch Hyfforddwr Gwaith yn eich apwyntiad nesaf neu anfonwch neges trwy eich cyfnodolyn Credyd Cynhwysol.