Adduned Cyflogwr Sy’n Dda i Bobl Hŷn – Canolfan Heneiddio’n Well

Older person in a work setting

Adduned Cyflogwr Sy’n Dda i Bobl Hŷn – Canolfan Heneiddio’n Well

Mae Adduned Cyflogwr sy’n Dda i Bobl Hŷn y Ganolfan er Heneiddio’n Well yn rhaglen genedlaethol i gyflogwyr sydd am ymrwymo i weithredu i wella recriwtio a chadw gweithwyr hŷn.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cael ei gydnabod fel Cyflogwr sy’n Dda i Bobl Hŷn. Cafodd gwaith ei wneud mewn partneriaeth â’r Ganolfan er Heneiddio’n Well i greu adnoddau Cymraeg i alluogi hyrwyddo’r cynllun yng Nghaerdydd. Mae Caerdydd Sy’n Dda i Bobl Hŷn yn gweithio i hyrwyddo’r fenter ac yn annog busnesau a sefydliadau i addo i weithredu camau cadarnhaol o ran cyflogaeth.

Trwy lofnodi’r Adduned Cyflogwr Sy’n Dda i Bobl Hŷn, mae Cyngor Caerdydd yn dangos ei fod yn gwerthfawrogi ac yn parchu cyfraniadau gweithwyr hŷn. Mae’r ymrwymiad hwn nid yn unig o fudd i weithwyr hŷn, ond mae hefyd yn helpu i greu gweithlu mwy amrywiol, aml-fedrus a chynhwysol o fewn y Cyngor.