Hyfforddiant a Datblygu Gofal Cymdeithasol Caerdydd

woman carrying out training

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu hyfforddiant i’ch cefnogi yn eich rôl, mae’r tîm yn cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu i ofalwyr cyflogedig a di-dâl.

Mae hyfforddiant yn hyblyg a gall fod:

  • wyneb yn wyneb,
  • ar-lein,
  • trwy weminarau, neu
  • hunan-arweiniol i ddysgu ar eich cyflymder eich hun.

Mae’r tîm yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddi, megis:

  • Gofal dementia, gan gynnwys cyfathrebu a chreu mannau sy’n deall dementia
  • Hanfodion gofal, megis rheoli cyflyrau cronig, diabetes, a gofal croen
  • Codi a chario i ofalwyr anffurfiol
  • Cymorth cyntaf brys
  • Ymwybyddiaeth niwroamrywiaeth, gan gynnwys ADCG, awtistiaeth, a syndrom Tourette.

Gallwch gael mynediad at hyfforddiant trwy lenwi’r ffurflen ar-lein ar wefan CBA Dewis, neu drwy anfon e-bost atom yn uniongyrchol yn HDGCPartneriaid@caerdydd.gov.uk.

Os hoffech siarad am eich rôl a’r math o hyfforddiant a fyddai’n helpu, gallwn greu cynllun dysgu personol i chi. Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn neu ar e-bost.

Ffôn: 02920 871 111

Support for carers