Sgrinio Canser y Fron
Sgrinio Canser y Fron
Mae sgrinio’r fron yn chwilio am ganser y fron cyn i’r symptomau ymddangos. Mae dod o hyd i ganser y fron yn gynnar yn rhoi’r cyfle gorau i chi gael triniaeth a goroesiad llwyddiannus.
Mae sgrinio’r fron yn golygu cymryd pelydrau-X o’r fron, a elwir yn famogramau. Cymerir o leiaf ddau belydr x o bob bron.
Mae profion sgrinio ar y fron yn cael eu cynnig bob tair blynedd, i fenywod o 50 oed hyd at eu pen-blwydd yn 70 oed, ac sydd wedi’u cofrestru gyda meddyg.
Mae cymryd rhan mewn sgrinio ar y fron pan gewch eich gwahodd yn rhywbeth y gallwch ei wneud i ofalu am eich iechyd.