Anewrysm Aortig Abdomenol (AAA)

Anewrysm Aortig Abdomenol (AAA)

Mae sgrinio Anewrysm Aortig Abdomenol (AAA) yn edrych am chwyddo (anewrysm) o’r aorta yn yr abdomen.

Nod rhaglen sgrinio AAA yw lleihau nifer yr AAA a marwolaethau yng Nghymru.

Gwahoddir dynion 65 oed i gael eu sgrinio os ydynt wedi cofrestru gyda meddyg yng Nghymru.

Fel arfer, nid oes unrhyw arwyddion neu symptomau os oes gennych AAA. Mae hyn yn golygu efallai na fyddwch yn teimlo unrhyw boen neu’n sylwi ar unrhyw beth gwahanol.

Y ffordd hawsaf o ddarganfod a oes gennych AAA yw trwy gael sgan uwchsain untro o’ch abdomen.

Os canfyddir AAA byddwch yn cael cynnig monitro neu driniaeth.

Gall AAA ddigwydd i unrhyw un, ond mae’n fwyaf cyffredin ymhlith dynion 65 oed a throsodd. Rydych mewn mwy o berygl os ydych:

  • Yn ysmygu.
  • Â phwysedd gwaed uchel.
  • Colesterol uchel iawn.
  • Mae gennych hanes teuluol o AAA.

Gall dynion dros 65 oed nad ydynt wedi cael eu sgrinio o’r blaen gan y GIG neu sydd wedi cael diagnosis o ymlediad aortig abdomenol ofyn am sgan trwy gysylltu â Rhaglen Sgrinio Anewrysm Aortig Abdomenol Cymru:

De-ddwyrain Cymru

Rhaglen Sgrinio Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru, Uned 6

Green Meadow

Llantrisant

Pont-y-clun

CF72 8XT

aaa@wales.nhs.uk
01443 235161