Rhyw yn hwyrach yn eich bywyd
Rhyw yn hwyrach yn eich bywyd
Mae rhywioldeb yn bwysig i lawer o bobl wrth iddynt heneiddio, ond mae tystiolaeth yn dweud wrthym mai anaml y bodlonir hawliau rhywiol oedolion hŷn. Un o’r prif resymau yw oherwydd bod cymdeithas yn tueddu i beidio â gweld oedolion hŷn yn rhywiol. Darllenwch ymlaen i ddarganfod y gwir am rai o’r mythau mwyaf cyffredin…
Ffuglen – Mae condomau ar gyfer atal beichiogrwydd yn unig.
Ffaith – Mae condomau’n amddiffyn rhag pob haint a drosglwyddir yn rhywiol.
Ffuglen – Mae rhyw ar gyfer pobl ifanc yn unig.
Ffaith – Mae rhyw ac agosatrwydd yn rhannau arferol o fywyd i lawer o bobl wrth iddynt fynd yn hŷn.
Ffuglen – Ni ddylai fod hawl gan bobl hŷn i gael rhyw.
Ffaith – Mae gan bobl hŷn hawl i fwynhau perthynas rywiol iach a chydsyniol.
Ffuglen – Mae’n beryglus i bobl hŷn gael rhyw, gan eu bod mewn perygl o bethau fel trawiad ar y galon.
Ffaith – Gall cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol helpu i gadw eich calon yn gryf, lleihau lefelau straen, a’ch helpu i gynnal agwedd fwy cadarnhaol ar fywyd.
Ffuglen – Ni ddylai pobl hŷn ofyn cwestiynau am eu hiechyd rhywiol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Ffaith – Gall pobl hŷn drafod unrhyw bryderon am eu hiechyd rhywiol gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi cael rhyw heb ddiogelwch?
Rhyw di-gondom yw cael rhyw heb ddefnyddio condom, a all eich rhoi mewn perygl o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs). Mae angen i chi a’ch partner gael prawf ar gyfer STIs. Gellir gwneud hyn drwy:
- Gael pecyn prawf drwy’r post o’ch Hyb/Llyfrgell leol
- Archebu pecyn prawf ar-lein ar wefan Iechyd Rhywiol Cymru: www.shwales.online
- Cysylltu ag Adran Iechyd Rhywiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i drefnu apwyntiad ar 02921 835208.
Os hoffech gael cyngor iechyd rhywiol ar ŵyl y banc neu ar benwythnos, ffoniwch GIG 111 Cymru.
Diolch i Brifysgol Sheffield: Siarter Hawliau Rhywiol i Oedolion Hŷn