Gwasanaethau Awdioleg

Gwasanaethau Awdioleg

Os ydych chi’n cael eich atgyfeirio i Wasanaethau Awdioleg gan eich meddyg teulu, gallwch gael prawf clyw am ddim a chymhorthion clyw digidol ar y GIG. Bydd yr awdiolegydd (arbenigwr clyw) yn trafod eich canlyniadau gyda chi ac yn rhoi cyngor ar yr opsiynau gorau i chi.

Os ydych chi’n profi colli’ch clyw yn sydyn neu newid sydyn yn eich clyw, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu neu adran frys leol cyn gynted â phosibl.  Byddant yn trefnu profion ac yn trafod triniaeth gyda chi.

Gallwch ganfod mwy am wasanaethau Awdioleg Caerdydd a’r Fro ar wefan y GIG.

Gallwch hefyd gysylltu â nhw dros y ffôn, neges destun neu e-bost.

 

Ffôn: 02921 843179

Testun: 07805670359

E-bost: Audiology.helpline.CAV@wales.nhs.uk