Gwasanaeth torri ewinedd
Gwasanaeth torri ewinedd
Mae cynnal iechyd traed da yn bwysig er mwyn cynnal iechyd cyffredinol ac atal problemau cymhleth rhag datblygu. Gall ewinedd hir achosi poen ac anghysur, gan arwain at lai o symudedd o bosibl a mwy o risg o gwympo.
Mae Age Connects Caerdydd a’r Fro yn darparu Gwasanaeth Torri Ewinedd, sy’n cynnig gofal traed sylfaenol a gwybodaeth am esgidiau i bobl hŷn. Darperir y gwasanaeth gan dechnegwyr ewinedd sydd wedi’u hyfforddi mewn torri ewinedd syml.
Mae torri ewinedd ar gael drwy apwyntiad o’r clinigau canlynol yng Nghaerdydd:
- Hyb Llanrhymni Rhodfa Countisbury, Llanrhymni
- Hyb Rhydypennau, Heol Llandennis, Cyncoed
- Practis Meddygol y Grange, Bishop Street, Grangetown
- Hyb Ystum Taf a Gabalfa, Heol y Coleg, Ystum Taf
- Hyb Trelái a Chaerau, Heol Orllewinol y Bont-faen, Trelái
- Hyb STAR, Heol Muirton, Tremorfa
Holwch Age Connect am brisiau.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i archebu, ffoniwch 029 2233 1113.