Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a’r Fro
Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a’r Fro (GCACF)
Rydym wedi casglu gwybodaeth ynghyd a fydd o ddefnydd i chi efallai. Trowch at y wybodaeth hon neu cysylltwch a byddwn yn helpu.
Wrth i ni fynd yn hŷn, gall defnyddio cyffuriau neu alcohol gyflwyno heriau penodol a risgiau iechyd. Mae Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a’r Fro (GCACF) yn cynnig cymorth arbenigol i bobl dros 50 oed a gall helpu gyda’r canlynol:
- Rheoli cyflyrau iechyd cronig
- Gwneud yn siŵr bod meddyginiaeth reolaidd yn parhau i fod yn effeithiol
- Teimladau o ynysigrwydd ac unigrwydd
I ddarganfod mwy neu i ofyn am gymorth, ewch i’r wefan, info@cavdas.com, neu ffoniwch 0300 300 7000
Gall unrhyw un gysylltu â GCACF i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim. Y cam pwysicaf yw cysylltu.