Cael benthyg monitor pwysedd gwaed
Cael benthyg monitor pwysedd gwaed
Sut i gael benthyg monitor pwysedd gwaed o hyb neu lyfrgell.
Beth yw pwysedd gwaed?
Pwysedd gwaed yw’r cryfder y mae’ch gwaed yn gwthio ar ochrau eich rhydwelïau wrth iddo gael ei bwmpio o amgylch eich corff.
Mae pwysedd gwaed uchel (gorbwysedd) yn gyffredin iawn, ac fel arfer nid oes unrhyw symptomau, felly efallai na fyddwch chi’n sylweddoli ei fod gennych chi. Os na chaiff ei drin, gall fynd ymlaen i achosi problemau iechyd difrifol.
Sut i gael benthyg monitor pwysedd gwaed
Mae monitor pwysedd gwaed yn gwirio a yw eich pwysedd gwaed yn iach, neu a yw’n rhy uchel neu isel.
Os hoffech wirio eich pwysedd gwaed, gallwch fenthyg monitor gennym am hyd at 3 wythnos, yn hytrach na phrynu un.
Rhaid i chi fod yn aelod o’r llyfrgell i fenthyg monitor pwysedd gwaed. Os nad ydych chi’n aelod o’r llyfrgell, dysgwch fwy am ymuno â’r llyfrgell.
Mae yna 2 ffordd o gael benthyg monitor gennym ni:
Defnyddiwch gatalog ein llyfrgell ar-lein
Gallwch weld argaeledd a chadw monitor pwysedd gwaed ar-lein trwy gatalog ein llyfrgell. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch ei gasglu o’ch Hyb neu lyfrgell leol.
Ewch i’ch Hyb lleol
Gallwch fynd i’ch Hyb neu’ch llyfrgell leol a siarad ag aelod o staff.