Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda

Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda

Cwrs 6 Wythnos i’ch Helpu i Gadw’n Egnïol, Cadw mewn Cysylltiad, a Chadw’n Gryf

 

Mae’r Cwrs Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda wedi’i gyd-gynhyrchu gan aelodau’r gymuned a gweithwyr proffesiynol i gefnogi pobl i fyw’n dda wrth iddynt heneiddio.

Ni allwn atal y broses heneiddio ond mae yna bethau y gallwn eu gwneud nawr i’n helpu i heneiddio’n dda. Gallwn wneud dewisiadau sy’n gwella ein gallu i gynnal bywyd egnïol, i wneud y pethau rydyn ni’n eu mwynhau, ac i dreulio amser gyda’n hanwyliaid.

 

Bydd y cwrs Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda yn eich cefnogi i wneud y canlynol:

  • Dysgu am wahanol ffyrdd o ofalu am eich iechyd a’ch lles wrth i chi heneiddio
  • Rhoi cynnig ar wahanol weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu i fod yn fwy egnïol yn gorfforol ac yn feddyliol
  • Lleihau eich risg o gwympo
  • Cysylltu â’ch cymuned leol

 

Beth mae’r cwrs Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda yn ei gynnwys?

  • Mae’r cwrs yn 6 wythnos o hyd (wyneb yn wyneb)
  • Byddwch yn mynychu 2 sesiwn bob wythnos (12 sesiwn i gyd)
  • Trafodaeth grŵp 15-20 munud ar bwnc penodol sy’n ymwneud â heneiddio’n dda
  • 30-40 munud o weithgareddau wedi’u cynllunio i wella eich symudiad a’ch gweithrediad