Cynllun Bygi

Cynllun Bygi

Mae Bygi Symudedd Caerdydd yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n helpu’r rhai sydd angen cymorth symudedd i fynd o le i le a mwynhau’r profiad siopa a lletygarwch llawn. Mae’r cerbyd yn teithio o amgylch canol dinas Caerdydd rhwng dau leoliad wedi’u trefnu ymlaen llaw ac mae’n gallu dal hyd at dri o deithwyr, fel y gall ffrindiau ac aelodau’r teulu ymuno.

Mae’r Bygi Symudedd yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 8am a 4pm ac ar ddydd Gwener rhwng 8am a 3.30pm. Gellir ei archebu ymlaen llaw trwy lenwi’r ffurflen gais neu ffoniwch 029 2087 3888. Pan fydd yr archeb yn cael ei gadarnhau, byddwch yn cael e-bost neu neges destun. Ar ôl cyrraedd, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dangos prawf o’ch archeb a mwynhau’r daith trwy ganol y ddinas.