Cardiau Teithio Consesiynol
Trafnidiaeth
Cardiau Teithio Consesiynol
Os yw eich prif gyfeiriad yng Nghymru a’ch bod naill ai’n 60 oed neu’n hŷn neu’n bodloni meini prawf cymhwysedd anabledd y Llywodraeth, gallwch deithio am ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysus yng Nghymru a’r Gororau a chael gostyngiad neu deithio am ddim ar lawer o wasanaethau trenau.
Bydd angen:
- Eich rhif Yswiriant Gwladol
- Bil Treth Gyngor diweddar sy’n cynnwys enw eich cyngor lleol
- Ffotograff pasbort digidol ohonoch chi’ch hun
- Dogfennau prawf oedran ac adnabod fel trwydded yrru, pasbort neu dystysgrif geni
Os hoffech gael ffurflen gais bapur, ffoniwch 0300 303 4240. Gallwch gael help i wneud cais gan Hyb cymunedol.