Panel Dinasyddion
Panel Dinasyddion
Ydych chi’n fodlon ar y gwasanaethau rydych yn eu derbyn gan y Cyngor?
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu yng Nghaerdydd?
Mae gan Gyngor Caerdydd ei Banel Dinasyddion ei hun, sy’n cynnwys dros 5,000 o drigolion ar draws y ddinas sydd wedi cofrestru i rannu eu barn trwy amrywiaeth o arolygon ac ymgynghoriadau drwy gydol y flwyddyn.
Ar hyn o bryd, dim ond tua thraean o’r Panel sy’n 55 oed neu’n hŷn, a does dim digon o ymatebion gan bobl dros 75 oed i gynrychioli nifer y preswylwyr yn y grŵp oedran hwnnw yn iawn. Mae clywed gan amrywiaeth o drigolion yn golygu bod y Cyngor yn gallu gwybod yn well beth mae pobl ei angen, sydd yn ei dro yn eu helpu i wella gwasanaethau.
Gallwch ymuno drwy lenwi’r ffurflen ar-lein neu godi copi papur yn eich Hyb neu lyfrgell leol. Mae croeso i unrhyw un sy’n byw yng Nghaerdydd gofrestru, ond mae’r tîm yn arbennig eisiau clywed gan drigolion 75 oed neu’n hŷn.