Arolwg Llinell Ffôn Gofalwyr Di-dâl
Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio llinell ffôn bwrpasol ar gyfer gofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd. Mae’r llinell ffôn yn cynnig:
- cymorth,
- gwybodaeth ac arweiniad, a
- chymorth a chyngor.
Mae’r rhan fwyaf o alwyr yn gofyn am asesiad anghenion gofalwr, ond rydym eisiau i ofalwyr di-dâl wybod y gall y llinell ffôn gynnig llawer mwy. Rydym yn bwriadu newid enw’r llinell ffôn i adlewyrchu’r ystod o wasanaethau a chymorth sydd ar gael.
Rydym wedi gweithio gyda Chlwb Gofalwyr CAER i greu enwau newydd ar gyfer y llinell ffôn, a hoffem gael eich adborth.
Mae’r arolwg yn cau ar 30 Tachwedd 2025.
