Arolwg Gofalu am Ofalwyr
Yn dilyn ein harolwg Gofalu am Ofalwyr yn 2022, gwelsom fod ychydig dros 30% o ofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd wedi cymryd seibiant o’u cyfrifoldebau gofalu.
Rydyn ni eisiau clywed gan ofalwyr di-dâl i ddarganfod a yw mynediad at seibiannau byr wedi gwella ers hynny. Mae eich adborth yn bwysig i ni ac yn ein helpu i lunio ein gwasanaethau cymorth i’r dyfodol.
Mae’r arolwg yn cau ar 30 Tachwedd 2025.
