Lleoedd Newid

A man in a wheelchair smiling.

Lleoedd Newid

Yn aml, mae angen offer a lle ychwanegol ar bobl ag anableddau dysgu dwys a lluosog neu ag anableddau corfforol fel anafiadau i’r asgwrn cefn, nychdod cyhyrol a sglerosis ymledol i’w galluogi i ddefnyddio’r toiledau’n ddiogel ac yn gyfforddus.

Mae’r anghenion hyn yn cael eu bodloni gan doiledau Lleoedd Newid. Mae Toiledau Lleoedd Newid yn galluogi unrhyw un, waeth beth yw eu hanabledd, i fynd i’r siopau, mynychu apwyntiadau ysbyty, mwynhau bywyd cymunedol, cymdeithasu a theithio.

I weld y rhestr lawn o doiledau sydd ar gael i’r cyhoedd, edrychwch ar wefan Croeso Caerdydd. Mae Hybiau Cymunedol a Llyfrgelloedd Caerdydd yn rhan o’r cynllun ac maen nhw wedi cyhoeddi llyfryn defnyddiol sy’n manylu ar y cyfleusterau sydd ar gael ym mhob lleoliad – galwch heibio i Hyb i gasglu un!

Os ydych chi’n fusnes neu’n sefydliad sy’n dymuno cynyddu nifer yr ymwelwyr, cael eich cynnwys ar wefan Croeso Caerdydd, cael sticer ffenestr am ddim a dangos eich ysbryd cymunedol, llenwch y ffurflen hon, gan fanylu ar y cyfleusterau toiledau sydd gennych. Gallwch dynnu’n ôl o’r cynllun unrhyw bryd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Cynllun Toiledau Cymunedol, e-bostiwch cyfleusterau_cyhoeddus@caerdydd.gov.uk.

Cadwch lygad am y sticer ffenestr ar y dudalen hon pan fyddwch chi allan – mae’n golygu bod y busnes neu’r sefydliad yn hapus i chi ddefnyddio eu cyfleusterau toiledau heb orfod defnyddio eu gwasanaethau.

I gael mwy o wybodaeth am y Strategaeth Toiledau Lleol yng Nghaerdydd, ewch i Strategaeth Toiledau Lleol.