Egwyddorion Panel Arloesedd Cartrefu ein Poblogaeth sy’n Heneiddio (PACPH)
Egwyddorion Panel Arloesedd Cartrefu ein Poblogaeth sy’n Heneiddio (PACPH)
Mae egwyddorion PACPH yn seiliedig ar 10 o feini prawf dylunio allweddol. Maent yn bwysig i gartrefi pobl hŷn sydd angen dewis amgen deniadol i gartref teuluol ac yn gallu addasu dros amser i ddiwallu anghenion sy’n newid. Maent yn adlewyrchu:
- Gofod a hyblygrwydd
- Golau dydd yn y cartref ac mewn mannau a rennir
- Balconïau a mannau yn yr awyr agored
- Dyluniad y mae modd ei addasu ac yn ‘barod ar gyfer gofal’
- Defnydd cadarnhaol o ofod cylchrediad
- Cyfleusterau a rennir a ‘hybiau’
- Planhigion, coed a’r amgylchedd naturiol
- Effeithlonrwydd ynni a dyluniad cynaliadwy
- Lle i storio eiddo a beiciau
- Arwynebau allanol a rennir a ‘pharthau cartrefi’