Gofal a Thrwsio
Gofal a Thrwsio
Cenhadaeth Gofal a Thrwsio Caerdydd a’r Fro yw cefnogi pobl hŷn i atgyweirio, addasu a chynnal a chadw eu cartrefi. Eu nod yw sicrhau bod pob person hŷn yn gallu byw mewn cartrefi saff, diogel, cynnes a chyfforddus sy’n addas iddynt hwy a’u bywydau ac sy’n gwneud y mwyaf o’u hannibyniaeth. Mae Gofal a Thrwsio yn darparu nifer o wasanaethau sy’n cefnogi ac yn helpu pobl hŷn i gwblhau atgyweiriadau, gwelliannau ac addasiadau i’w cartrefi, drwy ddarparu cyngor arbenigol, cefnogaeth a chymorth ymarferol.
Mae Ymdopi’n Well yn wasanaeth ymweld â’r cartref am ddim sy’n cynnig cyngor a chymorth ymarferol i bobl dros 50 oed sydd wedi colli eu clyw, colli golwg, dementia, neu sydd wedi cael strôc. Bydd gweithwyr achos ymroddedig yn ymweld â phobl gartref ac yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol, cymorth ymarferol a hyd yn oed addasiadau i’r cartref er mwyn galluogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl.