DeafBlind UK

DeafBlind UK

Mae DeafBlind UK yn cefnogi pobl dallfyddar i adeiladu eu hyder a’u hannibyniaeth. Gallant gynnig cymorth ar ôl diagnosis, eich helpu i wneud y pethau rydych chi’n eu hoffi, a chynnig cyngor a gwybodaeth.

Mae eu gwasanaethau am ddim yn cynnwys:

  • Gwasanaethau iechyd a lles fel llinell gymorth, galwadau lles rheolaidd a chwnsela.
  • Sesiynau cymorth technoleg un i un er mwyn defnyddio ffonau, tabledi, gliniaduron, a dyfeisiau cartref cyffredin eraill. Mae hyn yn cynnwys gweminarau misol gyda siaradwyr gwadd a grwpiau ffocws ar-lein.
  • Help i ddod o hyd i waith, megis cymorth gydag ysgrifennu CV, paratoi at gyfweliadau a chwilio am swydd.
  • Grwpiau cymdeithasol ffôn a fideo, fel grwpiau fideo BSL, a gwasanaeth cyfeillio o bell.

 

Prosiect Reconnections

Mae Reconnections yn cynnig cymorth am ddim i bobl sydd ag amhariad synhwyraidd ddeuol yng Nghaerdydd.

Gallant helpu i:

  • ailgysylltu pobl â’u cymunedau lleol, a
  • dod o hyd i gyfleoedd cymdeithasol i leihau ynysigrwydd.

Maent hefyd yn cynnal grwpiau cymorth lle gall aelodau gwrdd a chymdeithasu ag eraill yn y gymuned ddallfyddar.

 

Gallwch atgyfeirio eich hun neu rywun arall at Deafblind UK a chanfod mwy am y prosiect Reconnections trwy ymweld â’u gwefan.

Gallwch hefyd gysylltu â nhw dros y ffôn, neges destun neu e-bost.

Ffôn: 0800 132 320

Neges Destun:  07903 572 885

E-bost: info@deafblind.org.uk