Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Mae gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ystod o bwerau cyfreithiol i helpu i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl hŷn. Mae hyn yn cynnwys:
- eiriol dros hawliau a herio gwahaniaethu,
- adolygu deddfwriaeth sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn
- hyrwyddo arfer gorau wrth ymdrin â phobl hŷn
Gall Tîm Cyngor a Chymorth y Comisiynydd eich helpu i ganfod cymorth a gwasanaethau ledled Cymru, a sicrhau bod eich hawliau’n cael eu cynnal.
Gall y tîm roi cymorth a chefnogaeth i chi os:
- ydych yn 60 oed a throsodd ac yn byw yng Nghymru
- yn pryderu y gallai eich hawliau fod wedi cael eu torri, neu
- os ydych wedi profi problemau gyda gwasanaethau, megis iechyd, gofal cymdeithasol, gwasanaethau cymunedol neu dai.
Gallwch hefyd gysylltu â nhw ar ran person hŷn os oes angen cymorth arnynt.
Gallwch ganfod sut i gael cymorth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar eu gwefan.
Gallwch hefyd gysylltu drwy’r post, ar e-bost neu dros y ffôn.
Ffôn: 034 4264 0670
E-bost: gofyn@comisiynyddph.cymru
Adeiladau’r Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Butetown
Caerdydd
CF10 5FL