Age Connects
Age Connects
Mae Age Connects Caerdydd a’r Fro yn elusen cofrestredig annibynnol sydd â’r weledigaeth o fyw mewn cymdeithas lle mae pobl hŷn yn cael eu parchu a’u galluogi i gyflawni eu dyheadau. Darperir cymorth i gefnogi pobl hŷn, yn enwedig y rheini sy’n agored i niwed, wedi’u hynysu ac mewn tlodi. Mae gwasanaethau’n cynnwys:
- Heneiddio’n Dda – darparu gweithgareddau a dosbarthiadau hamdden.
- Eiriolaeth – cefnogi pobl mewn cartrefi gofal.
- Eiriolaeth Canser a Phobl Hŷn – darparu eiriolaeth annibynnol i’r rhai y mae canser yn effeithio arnynt.
- Rhyddhau o’r Ysbyty – gwasanaeth gofal cartref cofrestredig sy’n cefnogi pobl ar ôl arhosiad yn yr ysbyty.
- Cadw Pobl yn Gysylltiedig – helpu pobl i barhau i gymryd rhan yn y gymuned neu i ddarparu ymweliadau cartref i’r rhai sy’n gaeth i’r tŷ.