Teimlo’n ddiogel yn y gymuned
Teimlo’n Ddiogel yn y Gymuned
Er bod twyll a seiberdroseddu yn dod mewn sawl ffurf, mae rhai camau syml y gallwch eu cymryd i amddiffyn eich hunan.
Byddwch yn Ddiogel Ar-lein
I gael cyngor ar amddiffyn eich hunan a’ch teulu ar-lein, ewch i Byddwch yn ddiogel ar-lein.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn gweithio gydag asiantaethau partner a chymunedau yn Ne Cymru i fynd i’r afael â galwyr stepen drws niwsans a masnachwyr diwahoddiad.
Gallwch ddod o hyd i gyngor atal troseddau cyffredinol ar wefan Heddlu De Cymru.
Os ydych chi’n teimlo bod trosedd yn digwydd, ffoniwch 999, neu 101 ar gyfer digwyddiad nad yw’n argyfwng. Os ydych yn poeni, gofynnwch am gyngor.
Dewch o hyd i restr o sefydliadau defnyddiol ar wefan Action Fraud.












